Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Ymchwiliad byr i wasanaethau orthodonteg yng Nghymru - Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Diben

 

1. Mae'r papur hwn yn amlinellu cefndir y broses o gyflwyno'r trefniadau cytundebol presennol ar gyfer deintyddiaeth, yr adolygiad annibynnol a'r ymchwiliad blaenorol i wasanaethau orthodonteg, y cwblhawyd y ddau ohonynt yn 2010/11, y pwysau sydd ar y gwasanaeth ar hyn o bryd a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ymdrin â phryderon ynghylch gallu ac adnoddau orthodonteg.

 

2. Mae'r papur hefyd yn ymdrin â'r materion a godwyd yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad.

 

Cefndir

 

3. Cyn 2006, roedd y system a arweiniwyd gan ddarparwyr yn golygu mai pob deintydd unigol, gan gynnwys orthodeintyddion, oedd yn gyfrifol am bennu o dan ba amgylchiadau ac ar ba lefel y byddai'n darparu gwasanaeth y GIG. Fel rhan o'r system, roedd orthodeintyddion hefyd yn cael lefelau uchel o arian gan y GIG, ac roedd y cynnydd canrannol flwyddyn ar ôl blwyddyn o ran gwariant orthodonteg yn uwch o lawer na gwasanaethau deintyddol eraill. Roedd rhai o'r triniaethau ar y lefel isaf o ran yr angen am driniaeth.

 

4. Yn 2006, cyflwynwyd trefniadau cytundebol newydd a arweiniodd at dri newid pwysig mewn perthynas ag orthodonteg:

 

·         cyflwyno'r Mynegai Angen am Driniaeth Orthodonteg (IOTN) fel ffordd o asesu'rangen a'r cymhwysedd ar gyfer triniaeth orthodonteg y GIG ar sail iechyd deintyddol; roedd y Mynegai yn galluogi BILlau i gyfrifo nifer a chanran eu poblogaethau preswyl y gellid eu hystyried yn gymwys/y gellid ystyried bod angen gofal orthodonteg y GIG arnynt;

·         rhoddwyd cyfrifoldeb i Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) dros ddarparu gwasanaethau deintyddol i ddiwallu anghenion lleol; 

·         rhoddwyd y gorau i gyllideb ganolog heb derfyn arian parod a phennwyd dyraniad â therfyn arian parod i BILlau. 

 

5. Yn y gorffennol, nid oedd llawer o gysondeb yn y ffordd y cawsai anghenion orthodonteg eu hasesu. O dan y trefniadau newydd, caiff pob asesiad ei gynnal gan ddefnyddio IOTN, sy'n ffordd llawer tecach a mwy cyson o asesu'r angen clinigol ac sy'n diffinio'r grwpiau o gleifion y mae angen triniaeth gwasanaethau orthodonteg y GIG arnynt i sicrhau iechyd y geg.

 

Adolygiad annibynnol o wasanaethau orthodonteg 2010

 

6. Yn 2010, cyflwynodd Grŵp Adolygu arbenigol, a gadeiriwyd gan yr Athro Stephen Richmond, Athro Orthodonteg yn Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, adroddiad ar y ddarpariaeth gwasanaethau orthodonteg yng Nghymru. Gwnaed hyn mewn ymateb i anawsterau a gofnodwyd ac yn dilyn argymhelliad a wnaed gan Grŵp Adolygu Gorchwyl a Gorffen Contract Deintyddol y GIG, a nododd fod orthodonteg yn faes yr oedd angen ei ystyried ymhellach.

 

7. Daeth yr Adolygiad i'r casgliad y gall y gwariant presennol ar orthodonteg yng Nghymru, i raddau helaeth, ddiwallu anghenion orthodonteg cleifion. Nododd yr adroddiad yn glir hefyd nad oedd llawer o driniaeth ddiangen yn cael ei darparu, er bod angen gwella'r broses ddilysu a chael cadarnhad pellach mewn perthynas ag ansawdd y gwasanaethau a ddarperir. Roedd yn amlwg hefyd bod y system ar gyfer darparu a rheoli gwasanaethau orthodonteg yng Nghymru yn anghyson ac yn aneffeithlon. Yn ogystal, nid oedd lleoliad gwasanaethau na mynediad at y gwasanaethau hynny yn unffurf.

 

8. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Athro Richmond gynnal asesiad pellach a diweddaru'r data a archwiliwyd yn flaenorol ac y cyflwynwyd adroddiad arnynt yn 2010. Dechreuodd yr adolygiad hwn ym mis Ebrill 2014 a dylai'r adroddiad fod yn barod erbyn mis Awst 2014.

 

Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i wasanaethau orthodonteg 2010/11

 

9. Yn gyffredinol, roedd adroddiad y Pwyllgor o blaid cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru ac roedd hefyd yn adlewyrchu canfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Adolygu arbenigol. Gwnaeth y Pwyllgor 17 o argymhellion a oedd yn ymwneud â datblygu gwasanaethau, gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a threfniadau atgyfeirio a monitro gwell. Ceir crynodeb o'r argymhellion a'r camau gweithredu a gymerwyd yn Atodiad A.

 

Mynediad i gleifion

 

10. Mae ffocws cyfran sylweddol o gleifion wedi newid o sicrhau bod eu dannedd yn iach ac yn ddi-boen, i ddyhead cynyddol am gael dannedd sy'n edrych yn dda hefyd. Mae hyn yn peri heriau newydd o ran y ffiniau rhwng triniaeth sydd ei hangen er mwyn sicrhau iechyd y geg - ar gael i bawb sy'n dymuno ei chael gan y GIG - a thriniaeth gosmetig.

 

11. Mae'r galw am driniaeth orthodonteg wedi cynyddu ledled y DU.Mae Llywodraeth Cymru a BILlau hefyd yn wynebu pwysau o ran gwariant ac mae'n rhaid gosod darpariaeth orthodonteg mewn cyd-destun â blaenoriaethau iechyd deintyddol eraill. Caiff 10% o gyfanswm cyllid gwasanaethau deintyddol y GIG a 37.5% o gyfanswm gwariant ar wasanaethau deintyddol y GIG i blant ei wario ar orthodonteg o fewn deintyddiaeth gofal sylfaenol. Felly mae'n hanfodol y caiff arian parhaus ei seilio ar asesiad cadarn o anghenion, blaenoriaethau a dull integredig o weithio rhwng darparwyr gwasanaethau deintyddol orthodonteg.

 

12. Mae'r data diweddaraf (ond nas cyhoeddwyd eto) a gafwyd gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS BSA) yn nodi bod y meysydd pryder a nodwyd gan adroddiad yr Athro Richmond yn 2010 wedi dechrau gwella. Yn 2012/13, comisiynodd BILlau Unedau o Weithgaredd Orthodontig (UOA) ychwanegol a arweiniodd at 500 o gleifion ychwanegol y flwyddyn yn dechrau triniaeth (cynnydd o 6%). Yn ogystal, gostyngwyd nifer y cleifion a gafodd apwyntiadau adolygu yn unig ac na chafodd unrhyw driniaeth 59%. Mae BILlau wedi dechrau canolbwyntio eu trefniadau comisiynu ar nifer lai o ddarparwyr arbenigol. Mae'r camau gweithredu hyn yn bwysig oherwydd caiff effeithlonrwydd y contract (gwerth am arian a chynhyrchiant) ei wella yn ogystal ag ansawdd y canlyniad.

 

13. Er gwaethaf y gwelliannau, rwyf yn ymwybodol bod cleifion yn dal i gael anawsterau wrth gael gafael ar driniaeth orthodonteg mewn rhai rhannau o Gymru, gyda rhai cleifion yn aros yn rhy hir i gael triniaeth. Darparodd arolwg gan Lywodraeth Cymru o bob BILl (Mawrth 2014) y data canlynol ar yr amseroedd aros presennol a nifer y plant sy'n defnyddio'r gwasanaethau o fewn pob BILl.

 

Y ddarpariaeth orthodonteg ym maes gofal deintyddol sylfaenol ac eilaidd

Bwrdd Iechyd Lleol

Amseroedd Aros Gofal Sylfaenol (y data diweddaraf sydd ar gael)

Rhestrau Aros Gofal Eilaidd (y data diweddaraf sydd ar gael)

BILl Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Atgyfeirio i gael Triniaeth: Cyfartaledd o 24 mis (5,257 o gleifion, gan gynnwys 1,067 o dan 11 oed - ym mis Rhagfyr 2013).

26 wythnos/189 o gleifion (ym mis Rhagfyr 2013).

BILl Aneurin Bevan

Atgyfeirio i gael Asesiad:

3-36 mis (1,827 o gleifion).

Asesiad i gael Triniaeth:

2-36 mis (960 o gleifion).

Atgyfeirio i gael Asesiad:

2-3 mis (19 o gleifion).

Asesiad i gael triniaeth:

18-36 mis (28 o gleifion).

BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

Atgyfeirio i gael Asesiad: 6-24 mis (16 mis ar gyfartaledd).

Asesiad i gael Triniaeth: 0-2 mis (6 wythnos ar gyfartaledd).

767 o gleifion (ar 6 Ebrill 2014).

BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Atgyfeirio i gael Asesiad:

12-24 mis (4,019 o gleifion).

Asesiad i gael Triniaeth:

0–2 mis.

Atgyfeirio i gael Asesiad: 2-5 mis (177 o gleifion)

Atgyfeirio i gael Triniaeth: 18-20 mis (919 o gleifion)

BILl Cwm Taf

Caiff y rhan fwyaf o gleifion eu hatgyfeirio i bractisau yng Nghaerdydd (a gaiff eu cynnwys o fewn ffigurau BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro).

Atgyfeirio i gael Asesiad:

2-8 mis (416 o gleifion).

Atgyfeirio i gael Triniaeth:

18-24 mis (384 o gleifion).

BILl Hywel Dda

Atgyfeirio i gael Asesiad:

Cyfartaledd o 9.6 mis (2,145 o gleifion).

Atgyfeirio i gael Triniaeth:

2.4 mlynedd (1,584 o gleifion).

Atgyfeirio i gael Asesiad:

4 mis (141 o gleifion).

Atgyfeirio i gael Triniaeth:

7-8 mis (59 o gleifion).

BILl Addysgu Powys

Atgyfeirio i gael Triniaeth: 6–18 mis

Hyd at 42 mis (De Powys) - yn adlewyrchu problemau recriwtio (100 o gleifion).

 

14. Fel y dynoda'r data, ceir amrywiad eang o ran amseroedd aros ar gyfer asesiadau a thriniaeth ledled Cymru. Mae nifer o resymau am yr amrywiad hwn.  Mae prosesau atgyfeirio aneffeithlon, amhriodol a chynnar yn atal ymarferwyr rhag darparu triniaeth orthodontig, ac mae apwyntiadau asesu yn llenwi'r llyfrau apwyntiadau. Mae tystiolaeth gan NHS BSA yn awgrymu bod nifer sylweddol o gleifion a gafodd driniaeth yn 2009 (cyfartaledd o 13% o'r holl driniaethau a ddarparwyd ledled Cymru) wedi cael rhagor o driniaeth rhwng 2012 a 2013. Yn ogystal yn ystod 2012/13, rhoddodd 624 o gleifion y gorau i'w triniaeth.  Os gellir lleihau'r ddau faes hyn neu gael gwared arnynt, yna bydd y system yn gallu trin mwy o gleifion bob blwyddyn a lleihau amseroedd aros yn sylweddol.

 

Effeithiolrwydd cydberthnasau gwaith rhwng practisau a BILlau

 

15. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried argymhellion ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i wasanaethau orthodontig 2010/11 ac wedi goruchwylio'r gwaith o ddatblygu cyfres o Rwydweithiau Clinigol rhanbarthol a Reolir. Cafodd y rhain eu sefydlu yn 2011 ac maent wedi dwyn swyddogion BILlau a chlinigwyr gofal sylfaenol a gofal eilaidd ynghyd. Hyd yn oed yn y cyfnod cymharol fyr y maent wedi bod wrth eu gwaith, gwelwyd rhai cyflawniadau nodedig eisoes. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu protocolau a phrosesau atgyfeirio dilys, mireinio'r system monitro ansawdd clinigol a datblygu proses achredu a ddefnyddir i nodi deintyddion â sgiliau estynedig ac a all ddarparu gofal orthodonteg o ansawdd uchel ar ran y GIG

 

Arian ar gyfer gwasanaethau orthodonteg

 

16. Mae BILlau yn cael arian ar gyfer pob un o gontractau'r GIG sydd ar waith yn eu hardal. Mae mwy o ddarparwyr orthodonteg wedi'u lleoli yng Nghaerdydd ac Abertawe nag unrhyw le arall yng Nghymru, felly ceir amrywiad o ran lefelau ariannu ar gyfer orthodonteg ymhob BILl. Er enghraifft, prin iawn yw'r gweithgaredd a'r cyllid orthdotonteg o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Fodd bynnag, caiff y rhan fwyaf o'i drigolion eu trin yng Nghaerdydd. Nododd adroddiad yr Athro Richmond yn 2010 fod y cyllid a ddarparwyd gan y GIG ym maes orthodonteg yn ddigonol i ddiwallu'r angen.

 

17. Erys triniaeth orthodonteg y GIG yn rhan o'r dyraniadau gwasanaethau deintyddol cyffredinol â therfyn arian parod a roddir i BILlau gyda chyfanswm gwariant o £13.5 miliwn (2012/13). Caiff ychydig dros £12 miliwn o'r swm hwn ei wario ar ddarparu triniaeth a chaiff y gweddill ei wario ar asesu ac atgyweirio offer. Ar hyn o bryd, mae'n costio £1,300 i drethdalwyr drin pob claf unigol. Mae'n rhaid i BILlau ddatblygu systemau comisiynu mwy effeithiol er mwyn sicrhau bod triniaeth orthodonteg yn parhau i ddarparu gwerth am arian ac yn parhau'n fforddiadwy

 

Blaenoriaeth i orthodonteg gyda'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Iechyd y Geg

 

18. Cyhoeddwyd Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cenedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd y Geg ym mis Mawrth 2013. Mae'n gynllun pum mlynedd ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i BILlau lunio cynllun iechyd y geg lleol. Nodwyd orthodonteg fel blaenoriaeth o fewn y Cynllun Cenedlaethol. Lluniwyd nifer o gamau gweithredu penodol mewn perthynas ag orthodonteg gan gynnwys y bwriad i adolygu contract orthodonteg presennol y GIG (ar y cyd â Lloegr) erbyn 2016/17. Roedd y camau gweithredu penodol yn cynnwys yr angen i BILlau wneud y canlynol:

 

·         gweithio'n agos gyda'i gilydd i ddatblygu llwybrau atgyfeirio a gofal y cytunir arnynt yn rhanbarthol a fydd yn galluogi gwasanaethau deintyddol cyffredinol, Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a Gwasanaethau Deintyddol mewn Ysbytai i weithio gyda'i gilydd yn well;

·         datblygu cynlluniau clir sy'n dangos sut y bydd eu trigolion yn cael gafael ar wasanaethau deintyddol arbenigol ym maes gofal sylfaenol (arbenigwyr a deintyddion â sgiliau estynedig), y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a/neu ofal eilaidd, a, sicrhau dull integredig o ddarparu'r gwasanaethau; 

·         gweithio'n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Reoli Orthodonteg y GIG o fewn Gofal Sylfaenol.

 

19. Yn ogystal, mae'r gwaith i ddatblygu Fforwm Cynghori Strategol ym maes Orthodonteg wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gael cyngor clinigol arbenigol ar ddatblygu polisi orthodonteg cenedlaethol i Gymru. Mae NHS BSA yn parhau i weithredu'r trefniadau ar gyfer monitro contractau orthodonteg y GIG ar sail glinigol. Yn ystod 2012/13, archwiliwyd detholiad ar hap o gontractau orthodonteg, a nodwyd y dylid cymryd camau i wella enghraifft o ofal o ansawdd gwael mewn perthynas ag un darparwr (cafodd contractau 29 o ddarparwyr eu monitro)

 

Effaith y contract deintyddol ar y ddarpariaeth orthodonteg

 

20. Mae BILlau a darparwyr yn ei chael hi'n hawdd monitro'r broses o gyflawni Unedau o Weithgaredd Orthodontig ac yn cytuno bod y contract yn syml i'w weinyddu. Mae'n well gan ddarparwyr y system taliadau 'cyn cychwyn' rheolaidd bresennol o gymharu â'r hen system 'ffi fesul eitem'. Ers cyflwyno'r meini prawf IOTN ar gyfer orthodonteg y GIG, mae pwy sy'n gymwys i gael gwasanaethau orthodonteg y GIG hefyd yn gliriach.

 

21. O ran meysydd i weithredu arnynt yn y dyfodol, mae angen parhau i dargedu'r materion canlynol.

 

·         Mae angen gwaith pellach i ddatblygu system casglu data gadarn.

·         Cyfraddau uchel o driniaethau heb eu cwblhau, defnydd amhriodol o Unedau o Weithgaredd Orthodontig o fewn asesiadau orthodonteg a chanlyniadau triniaeth gwael. Mae'n anodd gosod cosb ariannol neu gytundebol lle ceir enghreifftiau o ofal o ansawdd gwael. Mae heriau wrth ddod o hyd i'r ffordd orau o fonitro a rheoli materion o'r fath ac mae gwaith ychwanegol ar y gweill i wella'r sefyllfa.

·         Mae angen ystyried gallu BILlau i fonitro canlyniadau y tu hwnt i gyflawni Unedau o Weithgaredd Orthodontig yn ofalus ac mae angen datblygu mesur canlyniad ar gyfer adroddiadau cleifion (fel mesur ansawdd).

·         Mae BILlau yn parhau i gomisiynu contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol nad ydynt yn cynnwys llawer o elfennau orthodonteg. Mae'r contractau hyn yn aneffeithlon ac yn aml, mae ganddynt gymarebau asesiad i gael triniaeth cymharol uchel. Yn ogystal, pan gaiff y contractau hyn eu hadolygu/adnewyddu, caiff rhywfaint o weithgarwch orthodonteg ei golli wrth i BILlau drosi gweithgarwch orthodonteg yn Unedau o Weithgaredd Deintyddol cyffredinol h.y. cyrsiau triniaeth nad ydynt yn driniaeth orthodonteg.

·         Mae angen i'r system bresennol wneud mwy o ran annog y defnydd o gymysgedd o sgiliau. Er enghraifft, defnyddio therapyddion orthodonteg i ddarparu rhai agweddau ar ofal orthodonteg; ac yn olaf

·         Pan roddir y gorau i driniaeth gan ddarparwr, nid yw'r contract presennol yn eglur o ran pwy sy'n gyfrifol am gwblhau'r driniaeth felly gall BILl wynebu sefyllfa lle y mae'n rhaid iddynt dalu dwywaith am yr un claf os bydd y claf hwnnw yn dechrau triniaeth gydag un darparwr ac yn cwblhau'r driniaeth gyda darparwr arall. Rydym yn ystyried gwneud newidiadau i'r Rheoliadau er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon.

 

 

 

 

Mark Drakeford AC

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol


Atodiad A

Argymhellion o adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i wasanaethau orthodonteg 2010/11

 

ARGYMHELLIAD

SYLWADAU/Y SEFYLLFA BRESENNOL (Ebrill 2014)

1. Bod Llywodraeth Cymru’n comisiynu ymchwil pellach i asesu’r angen am driniaeth orthodontig, gan sicrhau bod y contractau am driniaeth orthodontig yn ddigonol i ateb y galw

Sefydlwyd Rhwydweithiau Clinigol a Reolir ledled Cymru yn cwmpasu De-ddwyrain, De-orllewin a Gogledd-orllewin Cymru (mae Powys yn rhan o Rwydwaith Gogledd-orllewin Cymru).

 

Mae'r Rhwydweithiau yn cyfrannu at waith y Fforwm Cynghori Strategol (SAF) ar Orthodonteg a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2011 i roi argymhellion yr Ymchwiliad a Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar waith.

 

Rôl y Rhwydweithiau yw cydgysylltu â'r Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) i roi llwybrau clinigol priodol ar waith ac i fod yn gyfrifol am safonau gofal clinigol priodol. Lle ceir angen nas diwallwyd ar gyfer gofal orthodonteg, dylai'r BILlau, mewn cydweithrediad â'r rhwydwaith clinigol lleol, brofi'r defnydd o gymysgedd sgiliau priodol er mwyn asesu anghenion a blaenoriaethau o ran gofal.

2. Bod BILlau yn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gwaith o gyflenwi gwasanaethau orthodontig drwy brosesau caffael effeithiol. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod pob contract yn cynnwys manylion am nifer y triniaethau y cychwynnir arnynt a’r nifer o driniaethau a gwblheir y flwyddyn.

Yn debyg i argymhelliad 2 Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau interim i'r BILlau ym mis Mawrth 2011 ar gomisiynu gwasanaethau orthodonteg mewn ffordd effeithiol ac effeithlon. Mae'r canllawiau yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys: defnyddio a dehongli data er mwyn gwella'r broses o reoli contractau yn arbennig mewn perthynas â dechrau asesiadau/adolygiadau/triniaethau; system Graddio drwy Asesiadau Cymheiriad (PAR) a gofynion am wybodaeth benodol o fewn contractau. Mae adborth gan BILlau a Rhwydweithiau yn cadarnhau bod y canllawiau yn cael eu defnyddio a'u bod yn gweithio'n effeithiol. Ailgyflwynwyd canllawiau i'r BILlau ym mis Mai 2013.

3. Bod Llywodraeth Cymru’n cynhyrchu canllawiau ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol ar gaffael gwasanaethau orthodontig yn effeithiol ac effeithlon. Dylai hyn gynnwys canllawiau ar ddatblygu cytundebau wedi’u seilio ar nifer y triniaethau a ddarperir y flwyddyn, ansawdd y gwasanaethau, canlyniadau triniaeth orthodontig a gwerth am arian

Yn debyg i Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (argymhelliad 2).

 

Ymdrinnir â hyn fel rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru - ailgyflwynwyd i'r BILlau ym mis Mai 2013.

4. Bod Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Grŵp Orthodontig Ymgynghorol Cymru sut i gyflwyno cyfradd Unedau o Weithgaredd Orthodontig (UOA) safonol i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth yng ngwerth UOAau a faint o driniaeth sy’n cael ei darparu.

Er bod rhywfaint o amrywiad o ran cyfraddau, mae gwerth Uned o Weithgaredd Orthodontig yn gymharol unffurf ledled Cymru, sef cyfartaledd o £62 gydag amrediad o £58-£74. Gallai'r broses o safoni Unedau o Weithgaredd Orthodontig greu gallu ychwanegol ond gallai hefyd ddadsefydlogi'r gwasanaeth pe mabwysiadwyd newid o'r fath dros nos. Mae gan orthodeintyddion gontractau tymor sefydlog a dim ond pan fydd yn bryd adnewyddu'r contractau hynny y gellir negodi newidiadau. Bydd goblygiadau ariannol os caiff gwerth yr UOA ei safoni ar lefel uwch na'r gwerth cyfartalog presennol.

 

Mae BILlau wedi ystyried allanolynnau gwerthoedd UOA fel rhan o'r broses negodi adeg adnewyddu contractau.

5. Bod y Byrddau Iechyd Lleol yn adolygu’r contractau y nodwyd sy’n darparu asesiadau orthodontig yn unig, neu asesiadau yn bennaf ac ychydig iawn o driniaethau.

Ymdrinnir â hyn fel rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru - ailgyflwynwyd i'r BILlau ym mis Mai 2013.

6. Bod y Byrddau Iechyd Lleol yn cyflwyno newidiadau contract penodol i adlewyrchu’r triniaethau a ddarperir yn hytrach na dim ond cyflawni Unedau o Weithgaredd Orthodontig (UOA). Dylai hyn gynnwys ystyried a ddylid caniatáu i ymarferwyr hawlio am ailasesiad o fewn cyfnod byr o amser, oni bai fod cyfiawnhad clinigol i hynny.

Ymdrinnir â hyn fel rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru - ailgyflwynwyd i'r BILlau ym mis Mai 2013.

7. Bod Llywodraeth Cymru yn hwyluso datblygu system atgyfeirio electronig yn unol ag Argymhelliad 6 o adolygiad cenedlaethol y Llywodraeth, a fydd yn golygu bod modd monitro cofnodion yn ganolog.

Yn debyg i Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (argymhelliad 6).

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog BILlau ac Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol i ddefnyddio data electronig tra'n aros am newid i'r contract/rheoliadau presennol. Bydd yr arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu o'r Gronfa Technolegau Iechyd a Thele-iechyd i gefnogi, ymhlith pethau eraill, e-atgyfeiriadau, hefyd o fudd i BILlau.

8. Bod y Byrddau Iechyd Lleol yn cefnogi'r bwriad i sefydlu Rhwydweithiau Clinigol a Reolir mewn orthodonteg gyda golwg ar wella’r gofal i gleifion. Dylai’r Rhwydweithiau Clinigol a Reolir gymryd y prif gyfrifoldeb am leihau’r nifer o atgyfeiriadau cynnar, lluosog ac amhriodol yn unol ag Argymhelliad 12 o adolygiad cenedlaethol y Llywodraeth.

Yn debyg i Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (argymhelliad 12).

 

Ymdrinnir ag atgyfeiriadau amhriodol fel rhan o Ganllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Sefydlwyd Rhwydweithiau ledled Cymru ac maent wedi goruchwylio'r broses o ddatblygu a gweithredu prosesau newydd ar gyfer rheoli atgyfeiriadau. Mae adborth cychwynnol yn awgrymu gwell sefyllfa ond mae'n rhy gynnar i fesur yr effaith wirioneddol. Bydd y SAF yn parhau i fonitro'r sefyllfa fel rhan o'i raglen waith arferol.

9. Bod Llywodraeth Cymru yn cyllido cynllun rhestrau aros unwaith ac am byth i glirio’r cleifion sy’n aros am driniaeth orthodontig yn y system.

Ni ddarparwyd unrhyw arian ychwanegol oherwydd pwysau eraill/gofynion eraill ar gyllidebau. Daw unrhyw arian ychwanegol o arbedion effeithlonrwydd a gwelliannau i'r system bresennol.

10. Bod Llywodraeth Cymru’n trafod â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol i sicrhau bod sylw’n cael ei roi i atgyfeiriadau amhriodol, ac a ddylai hyfforddiant IOTN fod yn orfodol i bob ymarferydd deintyddol cyffredinol.

Mae'r cwricwlwm i israddedigion yn cynnwys hyfforddiant ar y Mynegai Angen am Driniaeth Orthodonteg (IOTN) a disgwylir i ddeintyddion sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r holl faterion clinigol diweddaraf drwy brosesau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) gorfodol.

 

Mae'r cwricwlwm ar gyfer hyfforddiant i israddedigion eisoes yn cynnwys modiwl ar IOTN a disgwylir i ddeintyddion sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r holl faterion clinigol diweddaraf drwy brosesau DPP gorfodol.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu hyfforddiant deintyddol ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n darparu hyfforddiant i israddedigion ac ôl-raddedigion. Caiff israddedigion eu hyfforddi o ran diagnosis, pryd a sut i atgyfeirio gan ddefnyddio IOTN, PAR a defnyddio offer symudol a sefydlog. Mae cyrsiau mew orthodonteg i ôl-raddedigion yn darparu hyfforddiant orthodonteg estynedig.

 

Ymdrinnir ag atgyfeiriadau amhriodol fel rhan o Ganllawiau Llywodraeth Cymru. Caiff meddalwedd well sy'n helpu i ymdrin â mater fel achos IOTN ei gweithredu'n awtomatig pan gaiff y wybodaeth ei mewnbynnu.

11. Bod Llywodraeth Cymru’n diwygio’r Rheoliadau i gynnwys cosb yn y contract i ymarferwyr sy’n cyfeirio cleifion yn gynnar dro ar ôl tro neu’n atgyfeirio nifer fawr o achosion amhriodol, er mwyn eu hannog i newid eu hymarfer.

Caiff y gofyniad am ddiwygiad o'r fath ei ystyried pan gaiff newidiadau eu gwneud i'r contract/rheoliadau presennol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynir.

12. Bod y Byrddau Iechyd Lleol yn nodi trefniadau contract clir gyda Deintyddion â Diddordeb Arbennig (DwSIs) yn cynnwys monitro canlyniadau triniaethau yn fanwl, gyda golwg ar ddatblygu cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol orthodontig penodol.

Ers sefydlu'r Rhwydweithiau Clinigol a Reolir, dechreuwyd datblygu Deintyddion â Diddordeb Arbennig (DwSI) sy'n darparu gwasanaethau orthodontig D.S. cyfeirir bellach at Ddeintyddion â Diddordeb Arbennig fel Deintyddion â Sgiliau Estynedig (DES).

Sefydlwyd Cynlluniau Achredu ar gyfer DES ledled Cymru. Gwaith monitro gan SAF fel rhan o'i raglen waith arferol.

13. Bod y Byrddau Iechyd Lleol yn gweithio gyda rhwydweithiau clinigol a reolir i gyflwyno cynllun achredu lleol a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer Deintyddion â Diddordeb Arbennig

Gweler argymhelliad 12 uchod.                        

14. Bod Llywodraeth Cymru yn hwyluso datblygu sylfaen sgiliau’r gweithlu orthodonteg

Bydd y Cynlluniau Achredu ar gyfer DES yn helpu i ddatblygu'r sylfaen sgiliau (gweler argymhelliad 13 uchod).

15. Bod Llywodraeth Cymru yn cryfhau canllawiau presennol y Cyngor Deintyddol Cyffredinol i sicrhau bod rhaid i therapyddion orthodontig gael eu goruchwylio gan orthodeintydd ar y gofrestr arbennig yn hytrach na chan ymarferydd cyffredinol bob amser.

Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yw'r corff rheoliadol ac mae'n asesu cymhwysedd. 

 

Mae'r sefyllfa wedi newid ers i'r argymhelliad gael ei wneud. Mae canllawiau newydd gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn ymdrin â'r mater hwn.

16. Bod Llywodraeth Cymru yn diwygio’r Rheoliadau i gynnwys cosb mewn contractau am driniaeth o ansawdd wael (seiliedig ar PAR a heb gynnwys yr achosion hynny lle nad yw’r claf wedi cydymffurfio â’r driniaeth).

Mae cosbau mewn contractau yn bodoli eisoes ar gyfer gwaith o ansawdd gwael. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynnwys canllawiau ar PAR.

17. Bod Llywodraeth Cymru yn datblygu proses weithredu i hwyluso monitro manwl ar ganlyniadau triniaethau drwy PAR ac yn sefydlu system lle caiff gostyngiadau mewn sgoriau PAR eu monitro’n annibynnol bob blwyddyn i’r holl ddarparwyr.

Ymdrinnir â chanllawiau ar PAR o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Mae PAR yn rhan o rôl y Rhwydweithiau Clinigol a Reolir.  Mae trefniadau monitro PAR ar waith ledled Cymru drwy'r Rhwydweithiau Clinigol a Reolir ac mae SAF hefyd yn cynnal gwaith monitro fel rhan o'i raglen waith arferol.